Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai

12-12.15 Dydd Mercher 3 Chwefror 2016

Ystafell D, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

 

 

 

Aelodau Cynulliad yn bresennol:     Sandy Mewies (Cadeirydd sy’n gadael y swydd), Jocelyn Davies, Peter Black, Mark Isherwood, Mike Hedges (Cadeirydd nesaf y Grŵp)

 

 

Eraill yn bresennol


 

Paul Mewies, cymorth i'r Cadeirydd

Julie Nicholas, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (ysgrifennydd sy’n gadael y swydd)

Kevin Howell, Sefydliad Tai Siartredig Cymru (ysgrifennydd nesaf y Grŵp)

Aaron Hill, Cartrefi Cymunedol Cymru

Auriol Miller, Cymorth Cymru

Teej Dew, Tai Pawb

Elle McNeill, Cyngor ar Bopeth

Dave Palmer, Canolfan Cydweithredol Cymru

Steve Clarke, Tenantiaid Cymru

Jennie Bibbings, Shelter Cymru

Dorine Pannarale, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

Karan Sanghera, Cymorth i Ferched Cymru

Martin Asquith, HouseMark

David Wilton, Cynghrair y Trethdalwyr

David Morgan, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig


 

 

Cofnodion

 

1.    Croeso:

 

Croesawodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai, bawb a oedd yn bresennol a rhoddodd grynodeb o hanes y grŵp.

 

2.    Ymddiheuriadau:

 

Rhodri Glyn Thomas AC, Mark Harris, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Jim Bird Waddington, Caer Las

 

3.    Adroddiad Blynyddol:

 

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o gynnwys yr adroddiad i'r grŵp, gan roi diolch i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth barhaus. Rhoddodd ddiolch hefyd i Sefydliad Tai Siartredig Cymru am gydgysylltu'r grŵp ac am y gefnogaeth a gafwyd gan aelodau grŵp Homes for All Cymru (H4AC).

 

Cymeradwyodd y grŵp yr adroddiad a'r datganiad ariannol gyda'r diwygiadau a ganlyn:

Dylai aelodaeth Homes for All Cymru gynnwys y canlynol hefyd:

·         Dave Palmer, Canolfan Cydweithredol Cymru

·         Steve Clarke, Tenantiaid Cymru

·         Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth

·         Martin Asquith, HouseMark

 

4.    Ethol yr Ysgrifennydd:

 

Ymddiswyddodd Julie Nicholas fel ysgrifennydd y grŵp a rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i JN am ei chefnogaeth yn 2015/16. Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer ysgrifennydd newydd.

·         Cynigiwyd enw Kevin Howell, Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru, fel ysgrifennydd newydd gan Jennie Bibbings, Shelter Cymru, ac eiliwyd hynny gan Dorine Pannarale, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl.

Ni chynigiwyd unrhyw enwau eraill.

Etholwyd Kevin Howell yn ysgrifennydd.

 

5.    Ethol y Cadeirydd

 

Cadarnhaodd Sandy Mewies ei bwriad i ymddeol fel Cadeirydd y grŵp yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2016 a gwahoddodd enwebiadau ar gyfer rôl y Cadeirydd.

·         Cynigiodd Steve Clark, Tenantiaid Cymru, enw Mike Hedges ac eiliwyd hynny gan Auriol Miller, Cymorth Cymru. 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau pellach.

Etholwyd Mike Hedges yn Gadeirydd.

Dechreuodd Mike Hedges gadeirio'r grŵp, gan roi diolch i Sandy fel cyn-Gadeirydd y grŵp a dweud ei fod yn edrych ymlaen at ddatblygu'r grŵp a'i ddealltwriaeth o faes tai fel diwydiant a gwasanaeth pwysig yng Nghymru.

 

 

6.    Unrhyw fater arall:

 

Rhoddodd Kevin Howell ddiolch yn ffurfiol i'r ddau Aelod Cynulliad a fydd yn ymddeol adeg yr etholiad nesaf; Sandy Mewies a Jocelyn Davies. Rhoddodd KH ddiolch i SM am fod yn Gadeirydd ardderchog ac am gefnogi tai yng Nghymru, gan ddweud bod cefnogaeth SM yn hyn o beth wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant y grŵp. Rhoddodd KH ddiolch i JD hefyd, fel cyn-Weinidog Tai ac am lywio strategaeth Gwella Bywydau a Chymunedau 2010. Aeth KH ymlaen i roi diolch i Mark Isherwood am hyrwyddo tai ac adfywio fel llefarydd y Ceidwadwyr ar dai ac i Peter Black, a gyflwynodd Bil Cartrefi Symudol (Cymru), sef Bil Aelod Preifat cyntaf y Cynulliad a'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth tai i Gymru.

Yn olaf, rhoddodd KH ddiolch i Paul Mewies am ei waith ardderchog yn trefnu a chynorthwyo'r grŵp yn y Cynulliad.

            Cyflwynwyd blodau i SM a JD ar ran Homes for All Cymru.

 

7.    Diwedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Yn syth ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp, cynhaliwyd:


 

 

 

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dai

12.15-13.00, 3 Chwefror 2016

Ystafell D, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

      

 

Cofnodion

 

1.    Croeso i'r cyfarfod ar y cyd

 

Croesawodd Mike Hedges AC, Cadeirydd y grŵp, gynrychiolwyr y sefydliadau i gyfarfod olaf tymor y Cynulliad. Dywedodd y byddai'r grŵp yn cael ei ddiddymu'n awtomatig ac y byddai'r ysgrifennydd yn gyfrifol am gysylltu â'r Aelodau Cynulliad newydd/y rhai sy'n dychwelyd a phleidiau gwleidyddol ar ôl yr etholiad ym mis Mai er mwyn dechrau grŵp trawsbleidiol ar dai newydd.

 

2.    Papur lesddeiliaid:

 

Cyflwynodd JN y papur a baratowyd ar y cyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl, Canolfan Cydweithredol Cymru a Thenantiaid Cymru, gan egluro ei fod yn adlewyrchu trafodaethau blaenorol y grŵp a bod y Cadeirydd blaenorol wedi gofyn amdano fel dogfen gryno. Y bwriad oedd y byddai'r grŵp yn cymeradwyo'r papur ac yna gellid ei gyflwyno i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dai.

 

Cafwyd trafodaeth yn cynnwys:

PB: awgrym y dylid diwygio'r papur i gynnwys gwir gostau mewn ffordd dryloyw. Cytunodd y grŵp y câi hyn ei gynnwys.

SC: dywedodd fod gweithgor Cartrefi Cymunedol Cymru, sy'n gweithio ar draws asiantaethau, yn bwriadu cynnwys tryloywder fel un o'i argymhellion arfer da.

Soniodd PB am hanes achos a fyddai'n ddefnyddiol i'r grŵp hwnnw a dweud y gallai'r Cadeirydd gysylltu ag ef am ragor o wybodaeth.

Cymeradwywyd yr adroddiad yn amodol ar y diwygiad uchod, a chaiff ei anfon at y Gweinidog.

 

a.    Cyfeiriodd Dave Palmer at grŵp 'vintage green' yng Nghaerdydd, sef cymdeithas dai gydweithredol i fenywod hŷn.

 

Camau Gweithredu:

·         JN i ddiwygio'r adroddiad a'i anfon at y Gweinidog gyda llythyr eglurhaol gan y grŵp trawsbleidiol ar dai.

·         Cartrefi Cymunedol Cymru i gysylltu â Peter Black ynghylch yr hanes achos y cyfeiriodd ato.

 

 

3.    Y diweddaraf am ymgyrch Cartrefi i Gymru

 

Rhoddodd Aaron Hill y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ymgyrch Cartrefi i Gymru. Gan gydnabod nad oedd yr argyfwng dai yng Nghymru mor wael â'r hyn a oedd yn digwydd mewn rhannau o Loegr, dywedodd AH fod pob rhan o'r diwydiant tai yn cydnabod bod pob plaid wedi dangos llawer o gefnogaeth i barhau i fuddsoddi mewn tai yn ystod tymor presennol y Cynulliad er mwyn diwallu'r angen am dai yng Nghymru.  Dywedodd fod hyn yn cynnwys cefnogi'r rhaglen Cefnogi Pobl, buddsoddiad cyfalaf mewn tai cymdeithasol a dechrau Cymorth i Brynu - Cymru.

Dywedodd AH fod llawer o gefnogaeth i bartneriaeth Cartrefi i Gymru o hyd a'r garreg filltir nesaf i'r ymgyrch fyddai'r rali tai ar 4 Mawrth, yn dechrau yn y Senedd am 1pm ac yn gorffen yn yr Aes, Caerdydd.

Cafwyd gwahoddiad hefyd i'r grŵp fynychu hustyngau H4W ar 2 Mawrth yn yr Eglwys Norwyaidd.

Rhoddodd AH ddiolch i'r Aelodau Cynulliad ac aelodau'r grŵp trawsbleidiol am eu cefnogaeth ac am gymryd rhan yn yr ymgyrch hyd yma.

 

Cafwyd trafodaeth yn cynnwys:

 

·         Dywedodd KH fod cyfle o hyd i gymryd rhan ar y cyfryngau cymdeithasol i gefnogi a hyrwyddo'r ymgyrch a'r rali.

·         Dywedodd MH ei bod yn bwysig canolbwyntio hefyd ar y broblem o ran tai gwag yng Nghymru. Er bod y strategaeth tai gwag wedi cyflawni cryn dipyn roedd llawer o waith i'w wneud o hyd.

·         Dywedodd MI ei fod wedi ymrwymo i fynd i chwech o hustyngau ynghylch tai, gan gynnwys Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru, ac roedd yn falch o nodi bod y sector yn mynnu llawer o sylw cyn yr etholiad.

 

 

4.    Unrhyw fater arall:

 

a.    Dywedodd JN fod Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi gwneud cais i ymuno â'r grŵp trawsbleidiol ar dai.

Gofynnodd JD am wybodaeth am y grŵp, a darparwyd hynny gan aelodau eraill.

Cymeradwyodd y Cadeirydd y cais i ymuno â'r grŵp, gan nodi y câi'r grŵp ei ddiddymu'n fuan ond y byddai Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn gwneud nodyn o'r cais wrth symud ymlaen i dymor nesaf y Cynulliad.

 

5.    Diwedd y cyfarfod